#

Y Pwyllgor Deisebau | 5 Rhagfyr 2017
 Petitions Committee | 5 December 2017
 
 
 ,Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-787

Teitl y ddeiseb: Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol unigol yn dyrannu o leiaf 50 y cant o'u dyraniadau amcanol i waith ieuenctid drwy'r 'Grant Cynnal Refeniw'.

Mae'r mater o p'un ai y dylid neilltuo symiau penodol o'r 'Grant Cynnal Refeniw' ar gyfer gwaith ieuenctid ai peidio eisoes wedi'i nodi yn un o'r adroddiadau a gyhoeddwyd gan y 'Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg' yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n ffaith bod yna fwlch rhwng y cyfraniadau ariannol gwirioneddol i waith ieuenctid gan awdurdodau lleol unigol drwy'r Grant Cynnal Refeniw a'r dyraniad amcanol ar gyfer y gwaith hwn. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau a chynnal ansawdd y gwaith a wneir gyda phobl ifanc yng Nghymru er mwyn iddynt gael cyfleoedd gwerthfawr i wella eu hunain mewn amgylchedd cefnogol. Ni ddylai'r ffactor hanfodol hwn ddibynnu ar benderfyniadau awdurdodau lleol yn unig, sy'n amrywio o un i'r llall oherwydd eu blaenoriaethau o ran gwariant. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn fwy rhagweithiol i sicrhau bod y lefel isaf yn cael ei chynnal o ran ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru. Mae neilltuo rhannol yn atal awdurdodau lleol unigol rhag gostwng ymhellach lefel yr adnoddau ariannol sy'n cael eu gwario ar waith ieuenctid, gan eu galluogi i gynnal rhywfaint o annibyniaeth wrth flaenoriaethu eu gwariant yn unol â'u blaenoriaethau unigol. Efallai mai'r syniad penodol hwn yw'r ateb mwyaf realistig i'r mater.

 

 

Beth yw gwaith ieuenctid?

Nododd Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid (2012) mai diben allweddol gwaith ieuenctid yw:

‘enable young people to develop holistically, working with them to facilitate their personal, social and educational development, to enable them to develop their voice, influence and place in society and to reach their full potential.’

Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru yn hawl gyffredinol, sy'n agored i bob person ifanc o fewn yr ystod oedran penodedig 11 i 25. Cyflawnir gwaith ieuenctid drwy'r sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol a thrwy amrywiaeth o leoliadau a dulliau gwaith ieuenctid.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gwaith ieuenctid addysgiadol anffurfiol da yn rhoi ymyriadau gyda diben i bob person ifanc sy'n cynhyrchu amgylcheddau dysgu a datblygu ar gyfer pobl ifanc. Gall chwarae rhan bwysig wrth ddarparu a helpu pobl ifanc i gyflawni yn eu haddysg ffurfiol. Mae gwaith ieuenctid yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu sy'n addysgiadol, yn fynegiannol, yn gyfranogol, yn gynhwysol ac yn grymuso.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Gorffennaf 2016, cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal ymchwiliad "ciplun", gyda'r nod o adolygu effeithiolrwydd strategaeth a pholisïau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith ieuenctid.

Roedd gan y Pwyllgor ddiddordeb penodol yn archwilio'r canlynol:

§  Mynediad pobl ifanc at wasanaethau gwaith ieuenctid;

§  Effeithiolrwydd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru o ran gwaith ieuenctid;

§  Cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid (awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Ewrop, y trydydd sector); ac

§  Unrhyw faterion eraill yr ystyrir eu bod yn berthnasol i'r ymchwiliad.

Mae Blog y Gwasanaeth Ymchwil o fis Chwefror 2017 yn rhoi trosolwg o ddatblygiadau cyn y Ddadl yn y Senedd ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid.

Mewn tystiolaeth lafar, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am sut y mae pwysau ariannol wedi cael effaith ddifrifol ar waith ieuenctid dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl Datganiad Ystadegol Llywodraeth Cymru, mae cyfanswm y gwariant a gyllidebwyd ar gyfer gwasanaethau ieuenctid gan awdurdodau lleol, gan gynnwys cyllid drwy'r Grant Cynnal Refeniw, wedi gostwng bron 25 y cant dros y pedair blynedd diwethaf.

Wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, nododd y Pwyllgor wrthwynebiad cryf y Gweinidog i neilltuo'r arian ar gyfer gwaith ieuenctid o fewn y grant cynnal refeniw. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn pryderu o hyd bod diffyg atebolrwydd ar gyfer y defnydd o arian a ddyrennir mewn enw i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw.

Wrth ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid ac ymateb y Gweinidog, mae Argymhelliad 8 o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi fel a ganlyn:

Dylai'r Gweinidog ddatblygu fframwaith atebolrwydd ar gyfer defnydd awdurdodau lleol o arian ar gyfer gwaith ieuenctid drwy'r grant cynnal refeniw. Dylai'r fframwaith gynnwys sancsiynau os na chyflawnir y canlyniadau.

Roedd yr argymhelliad hwn yn dilyn ymlaen o dystiolaeth a arweiniodd y Pwyllgor i fynegi pryderon ynglŷn â phwysau cynyddol ar y sector statudol a gwirfoddol sy'n gysylltiedig â chyllid byrdymor o nifer o ffrydiau ariannu.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ymatebodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd yn gadarnhaol i argymhellion y Pwyllgor yn ystod mis Chwefror 2017, gan dderbyn y mwyafrif ohonynt ac yn cydnabod eu bod yn cyfateb â'i ffordd ef o feddwl. Mewn ymateb i argymhelliad 8, a dderbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, dywed y Gweinidog ar y pryd:

Mae'r grant cynnal refeniw yn ffrwd gyllido sydd heb ei neilltuo, ac felly mater i'r awdurdodau lleol yw penderfynu sut caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau lleol. Nid yw'n bosibl nodi faint o'r grant sy'n cael ei wario ar waith ieuenctid na rhagnodi'r swm hwn - mae'r Asesiadau o Wariant Safonol yn symiau tybiannol a ddefnyddir at ddibenion cyfrifo yn unig ac nid ydynt yn dargedau ar gyfer gwariant. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth uniongyrchol i nifer o gynlluniau grant i gefnogi canlyniadau gwaith ieuenctid. Rydym wedi dechrau'r broses o adolygu'r ffrydiau cyllido hyn ar gyfer gwaith ieuenctid er mwyn nodi'r effaith y maent yn ei chael a gwella'r modd y cefnogir gwaith ieuenctid yn y dyfodol.  Rwyf eisiau sicrhau gwell tryloywder a gwerth am arian. 

Fel rhan o ohebiaeth barhaus rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Gweinidog ar y pryd, ysgrifennodd Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor, at Alun Davies ym mis Mai 2017 [WSL(-T1] yn gofyn am ddiweddariad ar gynnydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu argymhellion yr ymchwiliad. O ran cyllid, dywed y llythyr:

Roedd y Pwyllgor yn wir pryderu y byddai gwasanaethau ieuenctid yn agored i ansicrwydd ariannol os nad yw awdurdodau lleol yn cael arweiniad clir ac yn atebol o ran sut y dylid gwario'r Grant Cynnal Refeniw i gefnogi gwasanaethau ieuenctid. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o ffrydiau ariannu gwaith ieuenctid a amlinellwyd gennych yn eich ymateb i'r Pwyllgor?

Roedd ymateb Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ym mis Mehefin 2017[WSL(-T2]  yn ailadrodd sut y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd ar gyfer gwasanaethau ieuenctid statudol drwy'r Grant Cynnal Refeniw, ond fe ddiweddarodd y Gweinidog y canlynol:

We are currently in the process of externally reviewing our additional youth work grants, including the National Voluntary Youth Organisation (NVYO) grant, all evaluations are due to be completed this summer. It will be at this point I will consider our options and then announce my decision, which will include any changes to the NVYO grant. I am fully aware of timescales for current NVYO recipients, including the need to know of any future funding decisions by 31 December.[WSL(-T3] 

At hynny, yn ei ymateb i'r Ddeiseb hon, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod hwn yn fater a godwyd yn Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac yn amlinellu ei hymdrechion i helpu i lunio'r cyfeiriad statudol a'r canllawiau ar waith ieuenctid i adlewyrchu tirwedd ddeddfwriaethol, polisi ac ariannol heddiw, a phennu disgwyliadau realistig ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni.

Daw Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, i'r casgliad yn ei llythyr at y Pwyllgor Deisebau nad yw'n bwriadu gwneud newidiadau i'r trefniadau ariannu presennol tra bod yr adolygiadau hyn yn mynd rhagddynt.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [WSL(-T1]Link doesn’t work.

 [WSL(-T2]Link doesn’t work.

 [WSL(-T3]Is this available in Welsh?